Health Challenge Wales - 15th - 21st May 2006National healthy Living Week - Wythnos Genedlaethol Byw`n lachchildren
camau bach... Canlyniadau Mawrchildren

Email us your pics here.


Healthy Living All Party group



Croeso!

Mae pob un ohonom wedi trio’n galed i gadw’n heini ac yn iach, ond rhywsut mae bywyd yn drysu pethau. Mae hyn yn broblem i ni – fel y mae i chi – ond ry’n ni wedi cael syniad...

Ry’n ni wedi penderfynu cynnal Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach gyntaf Cymru: arbrawf beiddgar ydyw sy’n ceisio dangos y gall dod yn heini ac yn iach fod yn hwyl hefyd! Dyma’r wythnos gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig, felly bydd angen i chi’n helpu ni i’w gwneud yn llwyddiant.

Mae’r wefan hon i chi...

Bydd y wefan hon yn eich helpu chi i gymryd rhan yn yr wythnos ac i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal. Yn wir, mae bod yn heini ac iach yn rhywbeth i bawb. Y gyfrinach yw camau bach a chanlyniadau mawr...

Pwy ydyn ni?

Crëwyd Grŵp Hollbleidiol y Cynulliad ar Fyw’n Iach gan Jeff Cuthbert AC yn 2003. Mae’r grŵp yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol a sefydliadau gwirfoddol. Nid ydym yn rhan o Lywodraeth y Cynulliad. Ein cydgenhadaeth yw helpu pobl - o bob lliw a llun - i fyw bywyd mwy actif a chyflawn.

Eich Wythnos Chi o Weithredu...

Ein gweledigaeth yw i’r Cynulliad, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol hyrwyddo diet gwell ac ymarfer corff drwy weithgareddau difyr yn ein cymunedau.

Ein nod yw gweithio gydag awdurdodau lleol i gynnal digwyddiadau difyr ac addysgiadol ar thema byw’n iach, ar draws Cymru, mewn un wythnos genedlaethol o weithredu!

Byddwn ni gyda chi ar hyd y daith...

Fel y llynedd, bydd llawer o Aelodau’r Cynulliad a Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd rhan yn yr wythnos.

Eich tro chi yw hi nawr...

Heddiw, mae’n ymddangos bod bywyd pawb mor brysur, felly ry’n ni wedi gwneud peth o’r gwaith drosoch chi, ond nawr eich tro chi yw hi i gymryd rhan...

Mae’r wefan hon yn cynnwys eich cysylltiadau lleol allweddol, calendr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill a phecyn gweithredu ar-lein i’ch helpu i wireddu digwyddiadau yn y gymuned.

Felly Gymru, beth am fynd ati i wneud Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach 2006 yn wythnos ddifyr i’w chofio!

Llythyr Croeso gan Jeff Cuthbert AM	Cliciwch yma i weld neges Jeff...
Llythyr gan y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC	Cliciwch yma i weld neges Rhodri...
GWEITHREDU NAWR!	Cliciwch yma i gael eich pecyn gweithredu...
 


Cyswllt

Rhianydd Williams
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd,
CF99 1NA
Ffôn:02920 898 314
Ffacs:02920 898 310

Cliciwch Yma i Anfon
E-bost